Mae Gwasanaeth Ysgrifenyddol Ystwyth yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddol a gweinyddol o'r safon uchaf o bell sydd yn eich cynorthwyo i wneud y gorau o'ch busnes.
Er hynny, does dim rhaid i chi redeg busnes i fanteisio ar ein gwasanaeth; gallwn ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol i bawb - busnesau bach, pobl yn gweithio o'r cartref, myfyrwyr, awduron ac unigolion.
Gan ddefnyddio'r rhyngrwyd ac e-bost i gyfathrebu â'n cleientiaid ac i ddosbarthu gwaith gorffenedig, rydym yn aml iawn gryn bellter o'n cleientiaid. Oherwydd natur y rhyngrwyd, mae'n bosib cael perthynas weithgar agos iawn heb gwrdd â'n gilydd.
Fe wnaeth perchenog Gwasanaeth Ysgrifenyddol Ystwyth, Mrs Sara Jones, ddechrau'r busnes hwn i gynnig gwasanaeth gweinyddol proffesiynol sydd wedi ei deilwra i gwrdd â gofynion unigol cleientiaid, pan maent ei angen. Mae Sara â'i thîm yn falch iawn o'r safon uchel o wasanaeth gweinyddol a gynnigir, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a'r Saesneg.
Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyfieithwyr (Saesneg-Cymraeg a Chymraeg-Saesneg), Argraffwyr, Dylunwyr Gwefannau, Dylunwyr a Cedwyr Llyfrau lleol sy'n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth cyflawn i'ch busnes.