Gwasanaeth Ysgrifenyddol
Secretarial
YSTWYTH
Pencastell
Llanilar
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 4SB

Tel: 07816 620253
E-mail: info@ystwythsecretarial.co.uk
info@ystwythsecretarial.co.uk
Mae rhoi gwaith allan i gontract yn awr yn cael ei dderbyn fel un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i leihau costau busnes, yn enwedig i fusnesau bach na all gyfiawnhau treiliau aelod arall o staff i wneud gwaith gweinyddol.
Yn edrych i lawr ar ddyffryn Ytswyth, cafodd Gwasanaeth Ysgrifenyddol Ystwyth ei sefydlu i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol, gweinyddol a chefnogaeth busnes proffesiynol ac effeithiol i fusnesau bach. Mae Gwasanaeth Ysgrifenyddol Ystwyth yn cynnig yr holl wasanaethau a gynnigir gan ysgrifennydd neu PA traddodiadol, ond yn fwy hyblyg â mwy o fuddiannau.
Mae Gwasanaethau Ysgrifenyddol Ystwyth yn ateb effeithiol a dibynadwy i’ch swyddi gweinyddol ac, yn fwy na dim, rydych ond yn talu am yr amser a’r gwasanaethau yr ydych yn eu defnyddio. Mae Gwasanaeth Ysgrifenyddol Ystwyth yn darparu gwasanaeth gweinyddol proffesiynol a chyfrinachol gyda phrisiau cystadleuol a gwaith gorffenedig cywir a chyflym.
Rydym yn hunan-gyflogedig ac felly ddim yn un o’ch gweithwyr cyflogedig. Mae hyn yn golygu eich bod yn ond yn talu am yr amser a gymerir i gyflawni’r gwaith; nid ydym yn cael ein talu i gymeryd seibiau paned neu pan fyddwch â llai o waith - yr unig gost yw pris y dasg unigol neu’r oriau sydd eu hangen.
• Dim trethi gwaith
• Dim costau hyfforddi
• Dim costau recriwtio
• Dim buddiannau gweithwyr
• Dim angen mwy o le swyddfa
• Dim amser yn cael ei wastraffu ar seibiau
Hafan
Home